About Us

Croeso i Stiwdio Frân Wen.

Mae Stiwdio Frân Wen yn fodel arloesol newydd ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc sydd â diddordeb yn y Diwydiant Cyfryngau a Chelfyddydau Digidol Creadigol. Mae’r stiwdio yn gweithredu fel unrhyw stiwdio gyfryngau neu gynllunio graffffeg arferol, gyda chleientiaid go iawn, comisiynau go iawn a gwaith caled go iawn. Yr unig wahaniaeth yw bod y tîm yn cynnwys pobl ifanc rhwng 16 – 24 oed nad ydynt fel arall mewn cyflogaeth, hyfffforddiant neu addysg.

Mae Stiwdio Frân Wen yn seiliedig ar y gred nad yw pawb yn dysgu yn yr un ffffordd ac nad yw llwyddiant neu fethiant o fewn dull dysgu penodol, o reidrwydd yn arwydd o botensial unigolyn. Mae sawl unigolyn llwyddiannus sydd wedi methu gydag addysg brif ffffrwd ac wedi gadael gyrfa addysgol gyda ychydig neu ddim cymhwysterau o gwbl. O Albert Einstein i Bill Gates, o Walt Disney i Pink, mae’r unigolion hyn wedi dylanwadu ar y byd heddiw er gwaethaf gadael addysg brif ffffrwd heb gyflawni’n academaidd.

Mae Stiwdio Frân Wen yn anelu at feithrin a datblygu awydd ar gyfer datblygiad personol a phroffffesiynol waeth beth fo man cychwyn unigolyn, a throi’r awydd hwnnw yn sgiliau masnachol byd go iawn a pharu hyn gyda chyfloedd rhwydweithio proffffesiynol newydd trwy gleientiaid y stiwdio. Bydd hyn, ynghyd â mentoriaeth a chefnogaeth unigolion proffffesiynol, entrepreuneuriaid llwyddiannus a sefydliadau addysg yn cynnig posibiliadau newydd mewn addysg bellach, hunan gyflogaeth neu hyd yn oed gwneud cais am waith neu brentisiaeth yn y diwydiant cyfryngau digidol.

Mae model Stiwdio Frân Wen yn cynnig rhaglen o hyfffforddiant dwys mewn sgiliau craidd a’r cyfle i weithio ar brosiectau go iawn gyda therfynau amser pendant, cyfarfod cleientiaid a chymryd cyfrifoldeb llawn dros gyflwyno gwaith o ansawdd uchel. Y gobaith yw, os yn llwyddiannus, y gellir cymhwyso’r model i amrywiaeth o feysydd yn y diwydiannau creadigol yn y dyfodol.

Welcome to Stiwdio Frân Wen.

Stiwdio Frân Wen is an innovative new model for working with young people interested in the Creative Digital Arts & Media Industry. The studio operates much as a normal graphic design or media studio does, with real clients, real commissions and real hard work. The only difference is that the team is built from young people between the ages of 16-24 who are not otherwise in employment, training or education.

Stiwdio Frân Wen is founded on the belief that not everyone learns in the same way and that success or failure within a particular method of learning is in no way an indication of the potential of an individual. Many great and successful individuals were not served by mainstream education and left with few or no qualifications. From Albert Einstein and Bill Gates to Walt Disney and Pink, these individuals have shaped the world we live in today despite dropping out of mainstream education or not achieving academic success.

Stiwdio Frân Wen aims to foster and harness a desire for personal and professional development regardless of an individuals starting point, and turn it into real world commercial skills paired with new professional networking opportunities through the studio’s clients. This, combined with mentoring and support from professional freelancers, entrepreneurs and further education establishments will give the young people new possibilities in further education, self employment or even applying for work or an apprenticeship in the digital media industry.

The model behind Stiwdio Frân Wen takes the approach of intensively training the team of young people in required core skills and then throwing them headlong into real projects with real deadlines, meeting real clients and taking complete personal responsibility for delivering good work. It’s hoped that, if successful, this model can be applied to a variety of creative arts fields in the future.

 

Back to Top